Mae’r  rheoliadau 30 a 31 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn datgan bod rhaid i'r person cofrestredig o ysbyty annibynnol, clinig annibynnol, neu asiantaeth feddygol annibynnol roi gwybod i ni am ddigwyddiadau penodol sy'n yn digwydd mewn perthynas â diogelwch cleifion

Digwyddiadau hysbysadwy

Gallwch ddarllen esboniad o pa ddigwyddiadau mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni amdanynt yn y 'Canllawiau ar gyfer Rheolwyr Cofrestredig a Darparwyr' sydd ar gael isod. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi'r amserlen ar gyfer hysbysu.

Sut i roi gwybod am ddigwyddiad hysbysadwy

Wrth hysbysu ni am ddigwyddiad hysbysadwy, defnyddiwch y ffurflen hysbysu berthnasol o'r rhestr isod. Rhowch gymaint o fanylion ag y bo modd wrth gwblhau'r ffurflen ac amgáu holl ddogfennaeth atodol megis adroddiadau ymchwiliadau yr ydych wedi comisiynu. Mae rhagor o wybodaeth ar gwblhau'r ffurflenni ar gael yn y canllawiau.

Sut i anfon eich ffurflen digwyddiad hysbysadwy atom

Bydd y ffurflenni wedi'u llenwi yn aml yn cynnwys gwybodaeth bersonol neu fasnachol sensitif ac yn haeddu amddiffyniad digonol. Rhaid i'r ffurflenni gael eu cyflwyno naill ai'n electronig trwy NWIS Ffeil Diogel Rhannu Borth (gwybodaeth am sut y gallwch ymuno â'r porth ar gael yn y canllawiau) neu ar ffurf copi caled gan ddefnyddio gwasanaeth Cofnodedig.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi rhoi gwybod i ni am y digwyddiad

Bydd llythyr cydnabyddiaeth / e-bost yn cael ei anfon atoch unwaith y byddwn wedi derbyn eich hysbysiad gyda chyfeiriad i’w defnyddio ar bob gohebiaeth yn y dyfodol. Bydd pob holl hysbysiadau eu hystyried gennym ni o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth. Mae'r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflenni digwyddiad hysbysadwy yn ein galluogi i asesu gallu'r darparwr gofal iechyd i gydymffurfio â Rheoliadau 2011 ac bod cleifion yn cael eu diogelu'n briodol.

Dogfennau

Diweddarwyd yn ddiwethaf: 1 Gor 2016